
Yn garedig iawn, y mae Rhwyfo Cymru wedi benthyg sawl cwch sengl, dwbl a chwad i’r clwb. Cychod seddi llithro ydi’r rhain ac mae nhw naill ai’n gychod dosbarth Olympaidd ‘cain’ neu’n gychod lletach, mwy sefydlog, sy’n cael eu ffafrio gan lawer wrth ddysgu rhwyfo a rhwyfo gan ganolbwyntio mwy ar hamddena. Mae rhwyfo afon yn gallu defnyddio technegau rhwyfo ‘ysgubo’ (un rhwyf i bob rhwyfwr) neu ’sgwlio’ (un rhwyf ym mhob llaw).

Mae’r clwb yn croesawu rhwyfwyr afon brofiadol. Ar gyfer dechreuwyr neu rwyfwyr sydd heb brofiad o sgwlio, mae’r clwb yn cyd-weithio gyda Rhwyfo Cymru i ddarparu cyfres o gyrsiau byr ‘Dysgu Rhwyfo’ ar draws 6 wythnos. Cysylltwch â Tom Clarke ar gyfer dyddiad y cwrs nesaf, trwy ymweld â’r tudalen facebook canlynol: