
Dim ond un llyn naturiol arall yn Nghymru sy’n fwy na Llyn Padarn, a CADP ydi’r unig glwb mewndirol yn Nghynghrair Gogleddol y ChRhMC. Y mae hyn yn ein galluogi i rwyfo trwy’r flwyddyn, ac mae nifer o glybiau eraill yn ymweld a’r llyn er mwyn ymarfer yn y Gaeaf.
Mae’r clwb yn aelod o Chymdeithas Rhwyfo Mor Cymru ac wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau rhwyfo ar hyd arfordir Cymru. Er mae ar y môr y cynhelir y ran fwyaf o’r rasus yma, mae aelodau o’r clwb wedi cystadlu yn y ‘Great River Race’ yn Llundain gan rhwyfo fyny’r afon Tafwys. Ras 21.6 milltir, sydd yn denu dros 330 o gychod traddodiadol o bedwar ban byd.
Mae calendar y clwb hefyd yn cynnwys sawl trip mwy hamddenol ar hyd yr arfordiroedd cyfagos.

Asesiad Risg CLWB RHWYFO LLANBERIS Mai 2015
Calendr Rasio Cymdeithas Rhwyfo Mor Cymru nawr ar-lein
E-bostiwch sharon.jones@gllm.ac.uk cyn gynted a phosib, gyda rhestr o’r rasys yr hoffech gymryd rhan ynddo.
http://www.welshsearowing.org.uk/events.shtml